(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010 (“y Rheoliadau Anghenion Personol”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”). Deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r swm sydd ei angen ar gyfer anghenion personol, fel bod y swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i'w ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr mewn llety a drefnir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ar gyfer anghenion personol, yn cynyddu i £23.00 yr wythnos.

Mae rheoliad 3 yn dirymu rhan o'r Rheoliadau Anghenion Personol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r Prif Reoliadau fel bod y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 20A yn newid i £22,500, ac yn gwneud yn eglur na chaniateir gwneud yn ofynnol bod preswylydd yn talu am, nac yn cyfrannu at, gost llety allan o gyfalaf sydd islaw'r swm hwn.

Mae rheoliad 5 yn diwygio paragraffau 10, 30 a 31 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, i ddarparu bod rhai taliadau elusennol a gwirfoddol o incwm i'w diystyru'n llawn wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion. Mae'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu diwygiadau a wnaed i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (“y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm”). Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm ynglŷn ag arian sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd. Mae rheoliad 6(a) yn pennu bod unrhyw daliad a wneir i breswylydd neu'i bartner o ganlyniad i anaf corfforol i'w ddiystyru am gyfnod o hyd at 52 wythnos o'r dyddiad y ceir y taliad cyntaf, ac eithrio pan fo'r taliad hwnnw wedi ei fwriadu'n benodol i ddiwallu cost gofal. Mae rheoliad 6(b) yn galluogi diystyru rhai dyfarniadau o iawndal, pan ddelir y dyfarniadau hynny yn ddarostyngedig i orchymyn neu gyfarwyddyd gan y llys.