Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 708 (Cy.110)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed

9 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2011

Yn dod i rym

11 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2011.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau y mae eu hangen at anghenion personol

2.  Y swm y bydd awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 fydd £23.00 yr wythnos.

Dirymu

3.  Dirymir drwy hyn reoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010(4).

Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau

4.—(1Yn y Prif Reoliadau, ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn cyfalaf – Cymru), yn lle'r ffigur “£22,000”, rhodder “£22,500”.

(2Ar ôl paragraff (2) o reoliad 20A, mewnosoder y paragraff canlynol—

(3) No resident is liable to pay for accommodation, or contribute to the cost of accommodation, from capital where the resident’s capital, calculated in accordance with regulation 21, does not exceed the amount specified in paragraph (2)..

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau

5.—(1Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), ym mharagraff 10(1), yn lle “paragraphs 29 and 31, the amount specified in paragraph 15(1) of Schedule 9 to the Income Support Regulations (relevant payments) of”, rhodder “paragraph 29,”.

(2Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (darpariaethau arbennig mewn perthynas â thaliadau elusennol neu wirfoddol a rhai pensiynau)—

(a)hepgorer paragraff 30; a

(b)ym mharagraff 31, yn lle “paragraphs 10(1) and 11” rhodder “paragraph 11”.

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau

6.  Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w ddiystyru)—

(a)ar ôl paragraff 10, mewnosoder—

(10A) Any amount which would be disregarded under paragraph 12A of Schedule 10 to the Income Support Regulations(personal injury payments) with the exception of any payment or any part of any payment that has been specifically identified by a court to deal with the cost of providing care.; a

(b)yn lle paragraff 19(5) rhodder—

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

9 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010 (“y Rheoliadau Anghenion Personol”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”). Deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r swm sydd ei angen ar gyfer anghenion personol, fel bod y swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i'w ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr mewn llety a drefnir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ar gyfer anghenion personol, yn cynyddu i £23.00 yr wythnos.

Mae rheoliad 3 yn dirymu rhan o'r Rheoliadau Anghenion Personol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r Prif Reoliadau fel bod y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 20A yn newid i £22,500, ac yn gwneud yn eglur na chaniateir gwneud yn ofynnol bod preswylydd yn talu am, nac yn cyfrannu at, gost llety allan o gyfalaf sydd islaw'r swm hwn.

Mae rheoliad 5 yn diwygio paragraffau 10, 30 a 31 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, i ddarparu bod rhai taliadau elusennol a gwirfoddol o incwm i'w diystyru'n llawn wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion. Mae'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu diwygiadau a wnaed i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (“y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm”). Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm ynglŷn ag arian sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd. Mae rheoliad 6(a) yn pennu bod unrhyw daliad a wneir i breswylydd neu'i bartner o ganlyniad i anaf corfforol i'w ddiystyru am gyfnod o hyd at 52 wythnos o'r dyddiad y ceir y taliad cyntaf, ac eithrio pan fo'r taliad hwnnw wedi ei fwriadu'n benodol i ddiwallu cost gofal. Mae rheoliad 6(b) yn galluogi diystyru rhai dyfarniadau o iawndal, pan ddelir y dyfarniadau hynny yn ddarostyngedig i orchymyn neu gyfarwyddyd gan y llys.

(1)

1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o “the minister” a “prescribed” yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a throsglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.

(5)

Mewnosodwyd paragraff 19 gan O.S. 1998/497, rheoliad 3.