Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011.
(2)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2011.
(3)
(4)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol2.
Y swm y bydd awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 fydd £23.00 yr wythnos.
Dirymu3.
Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau4.
(1)
Yn y Prif Reoliadau, ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn cyfalaf – Cymru), yn lle'r ffigur “£22,000”, rhodder “£22,500”.
(2)
“(3)
No resident is liable to pay for accommodation, or contribute to the cost of accommodation, from capital where the resident’s capital, calculated in accordance with regulation 21, does not exceed the amount specified in paragraph (2).”.
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau5.
(1)
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), ym mharagraff 10(1), yn lle “paragraphs 29 and 31, the amount specified in paragraph 15(1) of Schedule 9 to the Income Support Regulations (relevant payments) of”, rhodder “paragraph 29,”.
(2)
Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (darpariaethau arbennig mewn perthynas â thaliadau elusennol neu wirfoddol a rhai pensiynau)—
(a)
hepgorer paragraff 30; a
(b)
ym mharagraff 31, yn lle “paragraphs 10(1) and 11” rhodder “paragraph 11”.
Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau6.
Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w ddiystyru)—
(a)
“(10A)
Any amount which would be disregarded under paragraph 12A of Schedule 10 to the Income Support Regulations(personal injury payments) with the exception of any payment or any part of any payment that has been specifically identified by a court to deal with the cost of providing care.”; a
(b)
“Any amount which—
- (a)
falls within paragraph 44(2)(a), and would be disregarded under paragraph 44(1)(a) or (b), of Schedule 10 to the Income Support Regulations; or
- (b)
would be disregarded under paragraph 45(a) of that Schedule.”.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010 (“y Rheoliadau Anghenion Personol”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”). Deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r swm sydd ei angen ar gyfer anghenion personol, fel bod y swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i'w ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr mewn llety a drefnir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ar gyfer anghenion personol, yn cynyddu i £23.00 yr wythnos.
Mae rheoliad 3 yn dirymu rhan o'r Rheoliadau Anghenion Personol.
Mae rheoliad 4 yn diwygio'r Prif Reoliadau fel bod y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 20A yn newid i £22,500, ac yn gwneud yn eglur na chaniateir gwneud yn ofynnol bod preswylydd yn talu am, nac yn cyfrannu at, gost llety allan o gyfalaf sydd islaw'r swm hwn.
Mae rheoliad 5 yn diwygio paragraffau 10, 30 a 31 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, i ddarparu bod rhai taliadau elusennol a gwirfoddol o incwm i'w diystyru'n llawn wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion. Mae'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu diwygiadau a wnaed i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (“y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm”). Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm ynglŷn ag arian sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd. Mae rheoliad 6(a) yn pennu bod unrhyw daliad a wneir i breswylydd neu'i bartner o ganlyniad i anaf corfforol i'w ddiystyru am gyfnod o hyd at 52 wythnos o'r dyddiad y ceir y taliad cyntaf, ac eithrio pan fo'r taliad hwnnw wedi ei fwriadu'n benodol i ddiwallu cost gofal. Mae rheoliad 6(b) yn galluogi diystyru rhai dyfarniadau o iawndal, pan ddelir y dyfarniadau hynny yn ddarostyngedig i orchymyn neu gyfarwyddyd gan y llys.