Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
- mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 20023;
- ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 20024; ac
- ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Peidio â chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 20035.
Diwygio3.
(1)
“Credydau Treth Rhagnodedig4.
Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Deddf 1996–
(a)
pan fo gan riant C hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio; a
(b)
pan fo rhiant C yn cael Treth Credyd i Blant yn rhinwedd dyfarniad sydd wedi ei seilio ar incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190.”.
(2)
“Credyd Pensiwn y Wladwriaeth5.
Mae Credyd Pensiwn y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 20026 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 mewn amgylchiadau pan yw'r rhiant yn derbyn y credyd gwarant.”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 er mwyn ychwanegu budd-dal neu lwfans ychwanegol sy'n rhoi'r hawl i blentyn hawlydd gael prydau bwyd a llety am ddim ar daith breswyl.
Mae Credyd Pensiwn y Wladwriaeth wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 cyhyd â bod yr hawlydd yn derbyn y rhan credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi, at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 1996, pan fo gan riant C hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio ac mae'n cael Credyd Treth i Blant yn seiliedig ar incwm blynyddol nad yw'n uwch na £16,190, bydd hawl gan C i gael ciniawau ysgol am ddim.