Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 693 (Cy.105)

ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011

Gwnaed

8 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru—

  • a hwythau wedi eu bodloni bod twbercwlosis yn bodoli ymhlith aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal reoli a bod y twbercwlosis hwnnw wedi ei drosglwyddo neu'n cael ei drosglwyddo o foch daear i anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno;

  • a hwythau wedi eu bodloni bod difa aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal honno yn angenrheidiol er mwyn dileu neu leihau'n sylweddol nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno;

  • ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1); a

  • hwythau wedi eu bodloni mai defnyddio'r dull neu'r dulliau difa a bennir yn erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn yw'r ffordd fwyaf priodol dros gyflawni'r difa hwnnw, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol ac, yn benodol, yr angen i osgoi dioddefaint diangen i aelodau gwyllt y rhywogaeth o dan sylw, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 21(2), (4) a (5) ac 86(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 31 Mawrth 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

Cymhwyso'r Gorchymyn

2.  Mae'r Gorchymyn hwn—

(a)yn gymwys i'r ardal reoli;

(b)yn gymwys i dwbercwlosis; ac

(c)yn ymwneud â rhywogaeth y mochyn daear.

Difa moch daear

3.—(1Caiff swyddog awdurdodedig ddifa moch daear yn yr ardal reoli gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir ym mharagraff (2).

(2Rhaid i'r moch daear—

(a)cael eu trapio mewn cawell a naill ai—

(i)cael eu saethu; neu

(ii)cael pigiad marwol; neu

(b)cael eu saethu heb gael eu trapio mewn cawell.

(3Eiddo Gweinidogion Cymru yw carcas neu ran o garcas unrhyw fochyn daear a gaiff ei ddifa o dan y Gorchymyn hwn, a rhaid peidio â'i symud oddi ar y tir neu'r fangre lle y cafodd y mochyn daear ei ddifa, na gwaredu'r carcas neu'r rhan o garcas mewn unrhyw ffordd heb awdurdod Gweinidogion Cymru.

Gwaharddiadau

4.  Ni chaiff neb—

(a)caethiwo moch daear, eu llochesu, eu cuddio neu eu hamddiffyn mewn ffordd arall gyda'r bwriad o atal eu difa;

(b)rhwystro neu ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu ei ddefnyddio, sy'n cael ei wneud neu ei ddefnyddio, neu sydd i'w wneud neu i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r difa hwnnw; neu

(c)helpu, annog, cynghori neu gaffael person arall i gyflawni gweithred o'r fath.

Dirymu

5.  Mae Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009(4) wedi ei ddirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod twbercwlosis yn bodoli ymhlith moch daear (pryfaid llwyd, moch bychain) gwyllt yn yr ardal reoli; bod y clefyd wedi ei drosglwyddo neu'n cael ei drosglwyddo o foch daear i wartheg (da) yn yr ardal honno a bod angen difa moch daear gwyllt yn yr ardal honno er mwyn dileu'r achosion o dwbercwlosis neu leihau'n sylweddol nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno.

Mae'r ardal reoli yn cwmpasu tir yn siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro. Mae'r union ardal reoli wedi ei lliwio'n goch ar y map a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru dyddiedig 7 Mawrth 2011 ac a farciwyd “Ardal Reoli Moch Daear 2011”. Oherwydd graddfa'r map, nid yw'n bosibl ei atodi wrth y Gorchymyn hwn. Cafodd y map ei adneuo ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir cael gafael ar gopi o'r map at ddibenion eglurhad yn unig ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.wales.gov.uk/bovinetb.

Mae'r Gorchymyn yn darparu bod yn rhaid difa moch daear gwyllt drwy eu trapio a naill ai eu saethu neu roi pigiad marwol iddynt, neu drwy eu saethu heb eu trapio. Eiddo Gweinidogion Cymru yw carcas mochyn daear a gaiff ei ddifa felly ac ni chaniateir ei symud heb eu hawdurdod hwy.

Mae'r Gorchymyn yn darparu na chaiff neb—

(a)caethiwo aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear, eu llochesu, eu cuddio neu eu hamddiffyn mewn ffordd arall gyda'r bwriad o atal eu difa;

(b)rhwystro neu ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu ei ddefnyddio, sy'n cael ei wneud neu ei ddefnyddio, neu sydd i'w wneud neu i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r difa hwnnw; neu

(c)helpu, annog, cynghori neu gaffael person arall i gyflawni gweithred o'r fath.

Mae'r cosbau am dorri'r gwaharddiadau a osodir yn erthygl 4 wedi eu gosod yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Mae'r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn a gellir cael copi o Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Llywodraeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Enwir adran 86(1) oherwydd yr ystyr a roddir i “the Minister”. Mae swyddogaethau o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Cafodd y map ei adneuo ac mae ar gael i'w archwilio yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Llywodraeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir cael gafael ar gopi o'r map at ddibenion eglurhad yn unig yn www.wales.gov.uk/bovinetb.