2011 Rhif 693 (Cy.105)

ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru—

  • a hwythau wedi eu bodloni bod twbercwlosis yn bodoli ymhlith aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal reoli a bod y twbercwlosis hwnnw wedi ei drosglwyddo neu'n cael ei drosglwyddo o foch daear i anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno;

  • a hwythau wedi eu bodloni bod difa aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal honno yn angenrheidiol er mwyn dileu neu leihau'n sylweddol nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno;

  • ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811; a

  • hwythau wedi eu bodloni mai defnyddio'r dull neu'r dulliau difa a bennir yn erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn yw'r ffordd fwyaf priodol dros gyflawni'r difa hwnnw, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol ac, yn benodol, yr angen i osgoi dioddefaint diangen i aelodau gwyllt y rhywogaeth o dan sylw, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 21(2), (4) a (5) ac 86(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19812, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: