RHAN 2Profi a Symud

Cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis10.

(1)

Pan fo prawf perthnasol wedi ei gyflawni ar anifail nad yw'n anifail buchol, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i arolygydd ddarllen canlyniadau'r prawf, roi i geidwad yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol, gofnod ysgrifenedig o'r canlyniadau.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol y gwaherddir eu symud, neu y parheir i wahardd eu symud, o dan y Gorchymyn hwn yn dilyn y prawf.

(3)

Rhaid i'r ceidwad—

(a)

dal gafael ar y cofnod o ganlyniadau'r prawf am gyfnod o 3 blynedd a 60 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y pigiad gyda thwbercwlin; a

(b)

dangos y cofnod hwnnw pan fo arolygydd yn gofyn am ei weld.