Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi effaith i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a gyflwynodd adroddiad ym mis Ebrill 2010 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol yn Sir Benfro. Yr oedd adroddiad y Comisiwn yn argymell newid ffiniau cymunedau yn Sir Benfro a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau.

Mae printiau o'r mapiau sy'n dangos y ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (O.S. Rhif 1976/246) y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglŷn ag effaith a gweithredu gorchmynion fel hwn.