2011 Rhif 683 (Cy.101)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, dyddiedig Ebrill 2010 ar ei adolygiad o gymunedau yn Sir Benfro a'i gynigion ynglŷn â hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny gydag addasiadau.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno iWeinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy2.