Treuliau cychwynnol etc cynghorau cymuned newydd21.

(1)

Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Sir Penfro;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 19924;
  • ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012; ac

  • ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 19955.

(2)

Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith—

(a)

o ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a

(b)

o ran y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol,

drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran ganlynol—

“(3)

In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority must take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that notified to the billing authority in accordance with article 21(6) of the Pembrokeshire (Communities) Order 2011.”.

(3)

O ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol—

(a)

mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn cael effaith gan hepgor is-adran (6);

(b)

mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued” y geiriau “October in the financial year for which it is issued”; ac

(c)

mae'r cyfeiriad yn adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 at swm agregedig praeseptau a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 yn cael effaith fel petai'r swm agregedig yn cynnwys y swm a hysbyswyd i'r cyngor cymuned yn unol â pharagraff (6) o'r erthygl hon.

(4)

O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, bydd Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) yn cael effaith fel petai—

(a)

y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a

(b)

ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.

(5)

Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a hysbyswyd i'r cyngor cymuned yn unol â pharagraff (6) o'r erthygl hon.

(6)

Rhaid i'r swm sydd i'w hysbysu yn unol â'r paragraff hwn gael ei hysbysu mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i'r awdurdod bilio a'r cyngor cymuned newydd.

(7)

O ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith—

(a)

fel petai—

(i)

rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlennitalu), a

(ii)

yn is-baragraffau (1), (2) a (3) o baragraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau) ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff,

wedi'u hepgor; a

(b)

yn is-baragraff (1) o'r paragraff 8 hwnnw, drwy roi “May” yn lle “April”.