xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer yr adeg y mae Swyddogion Canlyniadau i ddychwelyd cyfrifon i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn darparu ar gyfer dull a ffurf y cyfrifon hynny.
Mae Erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn darparu bod gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol yr hawl i adennill taliadau mewn perthynas â gwasanaethau a roddwyd neu dreuliau yr aethpwyd iddynt mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad. Mae Erthygl 23(10) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ynglŷn â'r dull o ddychwelyd cyfrifon i Weinidogion Cymru at ddibenion talu costau swyddog canlyniadau, ac ynglŷn â ffurf y cyfrifon hynny.
Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chyflwyniad cyfrifon gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol.
Mae rheoliad 3(1) yn pennu bod yn rhaid cyflwyno cyfrif o fewn wyth mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir yr etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y mae'r cyfrif yn berthnasol iddo.
Mae rheoliad 3(2) yn darparu y caiff swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol gyflwyno cyfrif er mwyn adennill rhai o'r costau y mae gan y swyddog hawl i'w hadennill. Mae hwn yn cael ei alw'n gyfrif anghyflawn, a rhaid cyflwyno datganiad gyda'r cyfrif anghyflawn.
Mae rheoliad 3(3) yn darparu bod yn rhaid i'r datganiad sy'n cael ei gyflwyno gyda chyfrif anghyflawn gynnwys y rheswm dros gyflwyno'r cyfrif anghyflawn a'r dyddiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r cyfrif cyflawn. Rhaid i'r dyddiad hwn gael ei gytuno gyda'r Prif Swyddog Cyfrifyddu.
Mae rheoliad 3(4) yn darparu bod yn rhaid cyflwyno derbynneb a thystysgrif gyda chyfrif. Darperir ar gyfer cynnwys y dderbynneb, a'r geiriad sydd i'w ddefnyddio yn y dystysgrif.
Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurf y cyfrifon sydd i'w chyflwyno i Weinidogion Cymru. Mae rheoliad 4(1) yn darparu bod yn rhaid i'r cyfrif restru ar wahân bob eitem y codir tâl amdani. Mae rheoliad 4(2) yn darparu bod eitem sydd i'w rhestru yn y cyfrif yn ymwneud â gwasanaeth a roddwyd, neu draul yr aethpwyd iddi, ar gyfer yr etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y mae'r cyfrif yn berthnasol iddo neu mewn cysylltiad â'r etholiad hwnnw.