(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir Coleg Caerdydd a'r Fro o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) at y diben o redeg y sefydliad addysgol sydd â'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 1 Awst 2011 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymgymryd â rhedeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.

Mae drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn wedi eu cyhoeddi yn unol ag adran 51(3) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.