Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dynodi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“y Cyngor”) yn awdurdod perthnasol o ran Cymru at ddibenion adran 30 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“y Ddeddf”).

Swyddogaethau'r awdurdod perthnasol o ran Cymru a osodir gan y Ddeddf yw cymeradwyo a gorfodi cynlluniau a gyflwynir gan y sefydliadau hynny yng Nghymru sy'n dymuno codi ffioedd dysgu am gyrsiau gradd llawnamser sy'n uwch na'r swm sylfaenol. Rhagnodir y swm sylfaenol yn Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011.

Mae rheoliad 2 yn dynodi'r Cyngor yn awdurdod perthnasol. Mae rheoliad 3 yn diwygio'r Ddeddf i osod swyddogaethau ychwanegol sy'n ymwneud â darparu adroddiadau, gwybodaeth a chyngor ar faterion sy'n ymwneud â hybu mynediad i addysg uwch a hybu addysg uwch; ac o ran adnabod arferion da.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, C10 3NQ.