2011 Rhif 658 (Cy.96)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30 o Ddeddf Addysg Uwch 20041 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 30(3) o'r Ddeddf, mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddiwygio'r Ddeddf fel a nodir yn rheoliad 3, mewn cysylltiad â dynodi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn awdurdod perthnasol o ran Cymru.