Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2007 ac yn cymryd eu lle yn llwyr.
Mae rheoliad 2 yn nodi'r diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y rheoliadau.
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau dirymu a darpariaethau trosiannol. Ymdrinnir â chais am grant a wnaed gan berson o dan Reoliadau 2007 yn unol â'r rheoliadau hyn, os (ar yr adeg y daw'r rheoliadau hyn i rym) bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, sef (a) bod y cais heb gael ei gymeradwyo na'i wrthod, neu (b) bod y cais wedi cael ei gymeradwyo ond bod y gweithfeydd heb gychwyn.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru benodi asiantaeth ardal i weinyddu'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (y “Cynllun”), i ddyrannu arian i'r asiantaeth ardal at y diben o wneud grantiau, ac i dalu arian grant yn uniongyrchol i'r person sy'n gwneud y gwaith gwella.
Mae rheoliad 5 yn ymwneud â chymhwystra personau i wneud cais am grant neu am gyngor o dan y Cynllun. Yn gyffredinol, ni cheir ystyried ceisiadau ond pan fo'r ceisydd naill ai yn ddeiliad yr eiddo, neu'n meddiannu'r eiddo'n gyfreithlon fel ei unig neu ei brif breswylfa (“meddiannydd”) ac yn bwriadu aros yno dros y tymor hir. Ond nid oes angen i'r ceisydd fod yn berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo na bod â chytundeb tenantiaeth ffurfiol.
Caniateir i gais am gyngor oddi wrth unrhyw berson, sy'n feddiannydd ar yr annedd y mae'r cais yn ymwneud ag ef, gael ei ystyried.
Caniateir i gais am grant rhannol (h.y. cais y ceir cymeradwyo gwaith inswleiddio to a muriau yn unig ar ei gyfer) gael ei ystyried oddi wrth aelwydydd hyglwyf, sef pan fo'r ceisydd yn 60 oed neu drosodd, yn anabl neu â gwaeledd cronig, yn feichiog, neu yn meddiannu'r annedd gyda phlentyn neu berson ifanc o dan 25 oed.
Caniateir i'r meini prawf cymhwystra gael eu newid o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae rheoliad 6 yn nodi at ba amcanion y ceir cymeradwyo grant i roi cyngor neu i wneud gweithfeydd, neu'r ddau. Caiff yr asiantaeth ardal ychwanegu at y dibenion hyn neu eu newid, a gosod amodau, a safonau gofynnol o ran crefftwaith ac yn y blaen, ym mhob achos gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae rheoliad 7 yn caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar uchafsymiau grantiau, neu i'r asiantaeth ardal wneud hynny gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae rheoliad 8 yn nodi'r gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer gwneud cais.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ardal osod yr amodau ar roi unrhyw grant ag sy'n berthnasol, gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y gallai grant ddod yn ad-daladwy, y dull o sicrhau unrhyw ad-daliad o'r fath (er enghraifft, drwy osod arwystl ar yr eiddo), ac o sicrhau cydsyniad y landlord (pan nad y ceisydd yw perchennog y rhydd-ddaliad) i beidio â chodi'r rhent o ganlyniad i'r gwelliannau a wnaed. Caiff yr asiantaeth ardal osod amodau ychwanegol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.