(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru ddwy Gyfarwyddeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â meini prawf purdeb ar gyfer rhai ychwanegion bwyd (“y Cyfarwyddebau sy'n diwygio”). Y canlynol yw'r Cyfarwyddebau sy'n diwygio—

(a)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/37/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/60/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer melysyddion (OJ Rhif L152, 18.6.2010, t.12); a

(b)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/67/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L277, 21.10.2010, t.17).

2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith y Cyfarwyddebau sy'n diwygio drwy wneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300)) fel bod y diffiniadau o Gyfarwyddeb 08/60 a Chyfarwyddeb 08/84 yn y rheoliad hwnnw'n cynnwys cyfeiriad at y Gyfarwyddeb berthnasol sy'n diwygio (rheoliad 2(2)).