Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd i'w cynnal ar y cyd â'r Refferendwm Pleidlais Amgen ar gyfer etholiadau seneddol ar yr un dyddiad yn 2011. Mae'r symiau a ddynodir yn y Gorchymyn hwn fel y cyfansymiau cyffredinol mwyaf am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau wedi cymryd i ystyriaeth y darpariaethau a gynhwysir yn Neddf System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 sydd yn ei gwneud yn ofynnol bod y costau hyn yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng y Refferendwm Pleidlais Amgen ac etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006 (O.S. 2006/3268). Gwneir y Gorchymyn hwn o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau a dynnwyd mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy ar gyfer pob etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 1.

Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn pennu na chaiff cyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen, mewn perthynas â gwasanaethau o'r disgrifiad a bennir yn erthygl 5, fod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 1.

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn gosod cyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen. Ni chaiff treuliau o'r disgrifiad a bennir yn erthygl 6 fod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 1.

Mae erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy ar gyfer etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 2.

Mae erthygl 8 o'r Gorchymyn hwn yn pennu cyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn perthynas â gwasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen. Pennir y gwasanaethau yn erthygl 8, ac ni chaiff y taliadau fod yn fwy na'r swm a restrir yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2.

Mae erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn yn gosod cyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn perthynas â threuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen. Pennir y treuliau yn erthygl 9, ac ni chânt fod yn fwy na'r swm a restrir yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 2.

Yn achos etholiad nas ymleddir mewn etholaeth Cynulliad, mae erthygl 10 yn darparu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy yw £1,750 am bob etholaeth Cynulliad.

Yn achos etholiad nas ymleddir mewn rhanbarth y Cynulliad, mae erthygl 11 yn darparu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy yw £350 am bob rhanbarth y Cynulliad.

Mae'r tabl a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn disgrifio'r cyfanswm cyffredinol mwyaf a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau, y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill ar gyfer neu mewn cysylltiad ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen.

Mae'r tabl a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn disgrifio'r cyfanswm cyffredinol mwyaf a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau, y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill ar gyfer neu mewn cysylltiad ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen.