(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010 (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 2”) i wneud darpariaeth i ddiwygio is-deddfwriaeth o ganlyniad i ddiddymu Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 9A iddi.

Mae erthygl 2 yn mewnosod erthygl 5 (diwygiadau canlyniadol i amrywiol is-ddeddfwriaeth) ac Atodlen 4 yng Ngorchymyn Cychwyn Rhif 2.