2011 Rhif 577 (Cy.82) (C.20)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) a (Diwygiadau Canlyniadol) 2011

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2)(c) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) a (Diwygiadau Canlyniadol) 2011.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 (“the Commencement No. 2 Order”) yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 20102.

Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 22.

(1)

O 4 Mawrth 2011 ymlaen, diwygir Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl erthygl 4, mewnosoder y canlynol—

“Diwygiadau canlyniadol i amrywiol is-ddeddfwriaeth5.

Mae Atodlen 4, sy'n cynnwys diwygiadau i amrywiol is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn y darpariaethau a bennir yn Atodlen 1, yn cael effaith ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.”

(3)

Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder Atodlen 4 sydd wedi'i nodi yn Atodlen y Gorchymyn hwn.

Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru.

ATODLENATODLEN I'W MEWNOSOD FEL ATODLEN 4 I ORCHYMYN CYCHWYN RHIF 2

Erthygl 2(2)

“ATODLEN 4DIWYGIADAU CANLYNIADOL I AMRYWIOL IS-DDEDDFWRIAETH

Erthygl 5

Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975

1.

(1)

Diwygir Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 19753 fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 2—

(a)

ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “child minding”, yn lle “section 79A of the Children Act 1989” rhodder “section 19 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “day care”, yn lle “section 79D(5) of the Children Act 1989” rhodder “section 23(1) of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993

2.

(1)

Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 19934 fel a ganlyn.

(2)

Diwygir Atodlen 2 (gwybodaeth esboniadol i'w rhoi gyda hysbysiadau galw am dalu ardrethi) fel a ganlyn—

(a)

yn Rhan I, ym mharagraff 1, o dan y pennawd “Small Business Rate Relief”, ym mharagraff (f), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn Rhan II, ym mharagraff 1, o dan y pennawd “Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach”, ym mharagraff (dd), yn lle “Ran XA o Deddf Plant 1989” rhodder “Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfrifo Enillion) 1996

3.

(1)

Diwygir Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfrifo Enillion) 19965 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 2 (ffioedd gofal plant i'w didynnu wrth gyfrifo enillion), ym mharagraff 2, yn y diffiniad o “relevant child care charges”—

(a)

ym mharagraff (e), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle paragraff (f) rhodder—

“(f)

by a person who is excepted from registration under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 because the child care that person provides is in a school referred to in article 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010;”.

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996

4.

(1)

Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 19966 o ran Cymru fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 19(7) (triniaeth ffioedd gofal plant)–

(a)

yn is-baragraff (f), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

“(g)

by a person who is excepted from registration under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 because the child care that person provides is in a school or establishment referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010;”.

Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002

5.

(1)

Diwygir Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 20027 fel a ganlyn.

(2)

Diwygir rheoliad 2 (dehongli) fel a ganlyn–

(a)

yn y diffiniad o “child minding”, yn lle “section 79A(2) of the Children Act 1989” rhodder “section 19(2) of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn y diffiniad o “day care”, yn lle “section 79A(6) of the Children Act 1989” rhodder “section 19(3) of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

(3)

Ym mharagraff (g) o reoliad 5A (tystysgrifau cofnodion troseddol manylach: dibenion rhagnodedig), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Rheoliadau Anghymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002

6.

(1)

Diwygir Rheoliadau Anghymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 20028 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(10) (seiliau dros anghymhwyso)–

(a)

hepgorer “or” lle mae'n digwydd ar ôl is-baragraff (c), a

(b)

ar ddiwedd is-baragraff (d) rhodder hanner colon yn lle'r atalnod llawn a mewnosoder y canlynol—

“or

(e)

Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010.”.

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

7.

(1)

Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 20039 fel a ganlyn.

(2)

Yn Rhan 2 o'r Atodlen (gwybodaeth y mae ei hangen mewn cais), ym mharagraff 3(7), yn lle “paragraff 1(2) o Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989” rhodder “erthygl 14 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 201010”.

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

8.

(1)

Diwygir Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 200411 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 3 (dehongli)—

(a)

ym mharagraff (1), hepgorer diffiniadau—

(i)

“swyddfa briodol” (“appropriate office”), a

(ii)

“wedi'i ddatgymhwyso / wedi'u datgymhwyso (“disqualified”);

(b)

hepgorer paragraff (2); ac

(c)

ailrifer y ddarpariaeth bresennol ym mharagraff (1) fel rheoliad 3.

(3)

Yn Rhan II o'r Atodlen, ym mharagraff 28 (gwrthod cofrestru, datgymhwyso a chanslo cofrestriad ar gyfer darparu meithrinfeydd, gofal dydd neu ar gyfer gwaith gwarchod plant), ar ôl is-baragraff (c), rhodder—

“(ca)

Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;”.

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

9.

(1)

Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200512 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 5 (cymwysterau ac anghymwysiadau), ym mharagraff 9(bc) (personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi), yn lle “Ran XA o Ddeddf Plant 1989” rhodder “Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

Rheoliadau Budd-dal Tai 2006

10.

(1)

Diwygir Rheoliadau Budd-dal Tai 200613 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 28(8) (triniaeth ffioedd gofal plant)–

(a)

yn is-baragraff (c), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle is-baragraff (d) rhodder—

“(d)

by a person who is excepted from registration under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 because the child care that person provides is in a school or establishment referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010;”.

Rheoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006

11.

(1)

Diwygir Rheoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 200614 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 31(8) (triniaeth ffioedd gofal plant)–

(a)

yn is-baragraff (c), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle is-baragraff (d) rhodder—

“(d)

by a person who is excepted from registration under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 because the child care that person provides is in a school or establishment referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010;”.

Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 2006

12.

(1)

Diwygir Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor 200615 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 18(8) (triniaeth ffioedd gofal plant)–

(a)

yn is-baragraff (c), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle is-baragraff (d) rhodder—

“(d)

by a person who is excepted from registration under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 because the child care that person provides is in a school or establishment referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010;”.

Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006

13.

(1)

Diwygir Rheoliadau Budd-dal y Dreth Gyngor (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 200616 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 21(8) (triniaeth ffioedd gofal plant)–

(a)

yn is-baragraff (c), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle is-baragraff (d) rhodder y canlynol—

“(d)

by a person who is excepted from registration under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010 because the child care that person provides is in a school or establishment referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010;”.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Cymhwyster Ariannol) 2006

14.

(1)

Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Cymhwyster Ariannol) 200617 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “child care costs” —

(a)

ym mharagraff (d), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle paragraff (e) rhodder—

“(e)

persons referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010, in schools or establishments referred to in those articles;”.

Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007

15.

(1)

Diwygir Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 200718 fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 5(3)(a) (gofal plant cymwys), yn lle “Rhan 10A o Ddeddf 1989” rhodder “Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

(3)

Yn erthygl 11(2) (apelau), yn lle “adran 79M o Ddeddf 1989” rhodder “adran 37 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cyfansoddiad) (Lloegr) 2007

16.

(1)

Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cyfansoddiad) (Lloegr) 200719 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 6 (cymwysterau ac anghymwysiadau), ym mharagraff 9(d) (personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Ysgolion Newydd) (Lloegr) 2007

17.

(1)

Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Ysgolion Newydd) (Lloegr) 200720 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 2 (cymwysterau ac anghymwysiadau), ym mharagraff 8(d) (personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Rheoliadau Trefniadaeth Ysgolion (Gofynion ynglŷn â Sefydliadau) (Lloegr) 2007

18.

(1)

Diwygir Rheoliadau Trefniadaeth Ysgolion (Gofynion ynglŷn â Sefydliadau) (Lloegr) 200721 fel a ganlyn.

(2)

Yn yr Atodlen (unigolion a anghymhwyswyd rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusennol i sefydliad), ym mharagraff 1(d), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Lloegr) 2007

19.

(1)

Diwygir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Lloegr) 200722 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 2 (cymwysterau ac anghymwysiadau), ym mharagraff 8(d) (personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi), yn lle “Part 10A of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”.

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008

20.

(1)

Diwygir Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 200823 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “gofal plant” (“childcare”)—

(a)

yn lle “ran 10A o Ddeddf Plant 1989” rhodder “Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a

(b)

yn lle “ran 10A” rhodder “Ran 2”.

Rheoliadau Gofal Plant (Cofrestr y Blynyddoedd Cynnar a'r Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol) (Darpariaethau Cyffredin) 2008

21.

Yn rheoliad 5(2)(h) o Reoliadau Gofal Plant (Cofrestr y Blynyddoedd Cynnal a'r Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol) (Darpariaethau Cyffredin) 200824 (disgrifiadau rhagnodedig o wybodaeth), yn lle paragraff (i) rhodder—

“(i)

the Welsh Ministers in pursuance of their functions as registration authority under Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010;”.

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethu i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008

22.

(1)

Diwygir Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 200825 fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 8(a) (amodau rhyddhad – yr amodau gofal plant), yn lle “Ran XA o Ddeddf Plant 1989” rhodder “Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009

23.

Ym mharagraff 19 o Atodlen 1 i Reoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 200926 (gorchmynion etc. ynglŷn â gofal plant)—

(a)

hepgorer “or” lle y mae'n digwydd ar ôl is-baragraff (h), a

(b)

ar ddiwedd is-baragraff (i) rhodder hanner colon yn lle'r atalnod llawn a mewnosoder y canlynol—

“or,

(j)

Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010.”.

Gorchymyn Ffioedd y Goruchaf Lys 2009

24.

(1)

Diwygir Gorchymyn Ffioedd y Goruchaf Lys 200927 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 2 (peidio â chodi ffi a pheidio â chodi rhan o ffi), ym mharagraff 5(4) (incwm gwario misol), yn y diffiniad o “child care costs”—

(a)

ym mharagraff (d), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

ym mharagraff (e), yn lle “paragraph 1 or 2 of Schedule 9A to the Children Act 1989” rhodder “article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010”.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Gorchmynion Cyfraniadau) 2009

25.

(1)

Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Gorchmynion Cyfraniadau) 200928 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “child care costs” —

(a)

ym mharagraff (d), yn lle “Part XA of the Children Act 1989” rhodder “Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010”, a

(b)

yn lle paragraff (e) rhodder—

“(e)

persons referred to in article 11, 12 or 14 of the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010, in schools or establishments referred to in those articles;”.

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

26.

(1)

Diwygir Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 201029 fel a ganlyn.

(2)

Yn Atodlen 7 (cymwysiadau ac anghymwysiadau), ym mharagraff 9(ch) (personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi), yn lle “Ran XA o Ddeddf Plant 1989” rhodder “Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

27.

Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 201030 fel a ganlyn—

(a)

yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(i)

yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
  • “ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;”, a

(ii)

yn y diffiniad o “wedi ei anghymhwyso / wedi eu hanghymhwyso” (“disqualified”) yn lle “Ran 10A o'r Ddeddf” rhodder “Ran 2 o'r Mesur”;

(b)

yn rheoliad 2(2), yn lle “Ran 10A o'r Ddeddf” rhodder “Ran 2 o'r Mesur”;

(c)

yn lle rheoliad 10 (penderfyniad rhagnodedig) rhodder y canlynol—

“Penderfyniad rhagnodedig10.

At ddibenion adran 37(2)(a) o'r Mesur (apelau), mae penderfyniad gan Weinidogion Cymru ynghylch a ddylid cydsynio i anwybyddu anghymhwysiad o dan reoliad 9(1) yn benderfyniad rhagnodedig.”;

(ch)

yn rheoliad 11(1) (dyletswydd i ddatgelu), yn lle “Ran 10A o'r Ddeddf” rhodder “Ran 2 o'r Mesur”;

(d)

ym mharagraff 20 o Atodlen 1 (gorchmynion etc mewn perthynas â gofal plant)—

(i)

ar ôl is-baragraff (f) hepgorer “neu”, a

(ii)

ar ddiwedd is-baragraff (ff) rhodder hanner colon yn lle'r atalnod llawn a mewnosoder y canlynol—

“neu,

(g)

Rhan 2 o'r Mesur.”.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010 (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 2”) i wneud darpariaeth i ddiwygio is-deddfwriaeth o ganlyniad i ddiddymu Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 9A iddi.

Mae erthygl 2 yn mewnosod erthygl 5 (diwygiadau canlyniadol i amrywiol is-ddeddfwriaeth) ac Atodlen 4 yng Ngorchymyn Cychwyn Rhif 2.