Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu pa weithgareddau na fydd arnynt angen trwydded forol, neu na fydd arnynt angen trwydded forol os bodlonir amodau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy a gynhelir yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru ac y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (erthygl 2).
Mae Rhan 1 (erthyglau 1 i 3) yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.
Mae Rhan 2 (erthyglau 4 a 5) yn cynnwys darpariaethau sy'n pennu o dan ba amgylchiadau nad oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd morol trwyddedadwy, a darpariaethau ynglŷn â gwastraff (sy'n gweithredu, yn rhannol, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3)).
Mae Rhan 3 (erthyglau 6 i 34) yn cynnwys darpariaethau sy'n pennu'r gweithgareddau morol trwyddedadwy nad oes arnynt angen trwydded forol (gan gynnwys unrhyw amodau y mae'n rhaid eu bodloni fel rhan o'r esemptiad hwnnw).
Mae asesiad llawn o'r effeithiau y bydd yr offeryn hwn yn eu cael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.