RHAN 2Gweithgareddau esempt – darpariaethau cyffredinol
Gweithgareddau mewn perthynas â gwaredu neu adfer gwastraff5
1
Nid yw gweithgaredd gan sefydliad neu ymgymeriad sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff yn weithgaredd esempt, oni fodlonir yr amodau yn yr erthygl hon.
2
Amod 1 yw fod y sefydliad neu ymgymeriad yn ymgymryd ag—
a
gwaredu ei wastraff amheryglus ei hunan yn y man cynhyrchu; neu
b
adfer gwastraff.
3
Amod 2 yw fod y math a'r maint o wastraff sydd dan sylw, a'r dull o waredu neu adfer, yn gyson â'r angen i gyrraedd yr amcanion a grybwyllir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
4
Amod 3 yw fod y sefydliad neu ymgymeriad wedi ei gofrestru gyda'r awdurdod trwyddedu.
5
Rhaid i'r awdurdod trwyddedu at ddibenion paragraff 4, gadw cofrestr sy'n cynnwys enw a chyfeiriad pob sefydliad neu ymgymeriad sy'n ymgymryd â gweithgaredd esempt sy'n cynnwys gwaredu neu adfer gwastraff o fewn ardal yr awdurdod trwyddedu.
6
Ceir cadw'r gofrestr mewn unrhyw ffurf.
7
Yn yr erthygl hon—
a
mae i “sefydliad” ac “ymgymeriad”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “establishment” ac “undertaking” yn erthyglau 23 a 24 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;
b
mae i “gwastraff amheryglus” yr ystyr a roddir i “non-hazardous waste” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;
c
mae i “adfer” yr ystyr a roddir i “recovery” yn Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.