RHAN 2Gweithgareddau esempt – darpariaethau cyffredinol
Esemptio rhag yr angen am drwydded forol4.
(1)
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd a ymgymerir yng Nghymru neu yn rhanbarth glannau Cymru, sy'n weithgaredd esempt.
(2)
Mae gweithgaredd yn weithgaredd esempt i'r graddau—
(a)
y bo'n weithgaredd y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo13; a
(b)
pan fo cymhwysedd yr erthygl hon i weithgaredd yn ddarostyngedig i amod a bennir yn Rhan 3, y bo'r amod hwnnw wedi ei fodloni mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.
(3)
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac erthygl 5.
(4)
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n gwneud gweithgaredd yn weithgaredd esempt i'r graddau y bo ymgymryd â'r gweithgaredd yn groes i gyfraith ryngwladol.