RHAN 3Gweithgareddau y mae erthygl 4 (esemptio rhag yr angen am drwydded forol) yn gymwys iddynt ac amodau

Dyddodi a defnyddio ffaglau etc – dibenion diogelwch a hyfforddiant30.

Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi neu ddefnyddio unrhyw ffagl cyfyngder, arnofyn mwg neu sylwedd neu wrthrych pyrotechnegol cyffelyb at y diben o—

(a)

sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol;

(b)

achub bywyd; neu

(c)

hyfforddi at unrhyw ddiben y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b).