xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Cymhwyso

2.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1).

(1)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.