RHAN 3Gweithgareddau y mae erthygl 4 (esemptio rhag yr angen am drwydded forol) yn gymwys iddynt ac amodau

Lledaenu a magu pysgod cregyn13.

(1)

Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)

ddyddodi unrhyw bysgod cregyn, trestl, rafft, cawell, polyn, rhaff neu lein wrth ledaenu neu fagu pysgod cregyn;

(b)

gweithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o symud pysgod cregyn o fewn y môr yn ystod eu lledaenu neu'u magu.

(2)

Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath—

(a)

a wneir at y diben o waredu;

(b)

a wneir at y diben o greu, newid neu gynnal creigres artiffisial; neu

(c)

sy'n achosi neu'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyo.