(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, o ran Cymru, ddangosyddion perfformiad y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt ymarfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn o 1 Ebrill 2011 ymlaen.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu bod y dangosyddion perfformiad wedi eu nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae asesiad effaith reoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, a gellir cael copi gan Y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).