Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 558 (Cy. 80)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011

Gwnaed

21 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mawrth 2011

Yn dod i rym

1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol arnynt, gan adran 8(3) o'r Mesur hwnnw, i ymgynghori â hwy, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.

Dangosyddion perfformiad

2.  Mae'r dangosyddion perfformiad y bydd perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru'n cael ei fesur yn eu herbyn wrth iddo ymarfer ei swyddogaethau yn cael eu pennu drwy hyn yn yr Atodlen.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

21 Chwefror 2011

Erthygl 2

YR ATODLENLleihau Risg a Diogelwch Cymunedol

CyfeirnodDangosydd
FRS/RRC/S/001

(i)Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt, fesul 10,000 o'r boblogaeth;

(ii)Cyfanswm y prif danau yr aethpwyd atynt, fesul 10,000 o'r boblogaeth;

(iii)Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain mewn anheddau, fesul 10,000 o anheddau;

(iv)Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 10,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/002

Nifer y:

(i)

Marwolaethau a achoswyd gan danau, fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(ii)

Marwolaethau a achoswyd gan danau a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain, fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(iii)

Marwolaethau a achoswyd gan danau a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(iv)

Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau, fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(v)

Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain, fesul 100,000 o'r boblogaeth;

(vi)

Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 100,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/003Cyfanswm y tanau mewn mangreoedd annomestig, fesul 1,000 o fangreoedd annomestig.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, o ran Cymru, ddangosyddion perfformiad y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt ymarfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn o 1 Ebrill 2011 ymlaen.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu bod y dangosyddion perfformiad wedi eu nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae asesiad effaith reoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, a gellir cael copi gan Y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources