Mae'r offeryn hwn yn rhagnodi manylion y materion y mae'n ofynnol, gan adran 101(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“y Ddeddf”), eu cynnwys yn y gofrestr o wybodaeth a gynhelir gan Weinidogion Cymru fel awdurdod trwyddedu. Pennir y gweithgareddau morol trwyddedadwy yn adran 66 o'r Ddeddf.
Mae rheoliad 2 yn diffinio rhai termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau, a rheoliad 3 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ym mha ffurf y caniateir cadw'r gofrestr, a gwybodaeth ragnodedig.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r manylion y mae'n rhaid eu cynnwys yn y gofrestr mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau. Mae rheoliadau 6 i 12 yn rhagnodi manylion ychwanegol mewn perthynas â mathau penodol o geisiadau a thrwyddedau. Mae rheoliadau 13 ac 14 yn rhagnodi manylion ynglŷn ag amrywiadau, dirymiadau, ataliadau dros dro a throsglwyddiadau trwyddedau. Mae rheoliadau 15 i 17 yn rhagnodi manylion ynglŷn â chollfarnau, mathau eraill o gamau gorfodi, a chamau unioni.
Mae adran 101(5) o'r Ddeddf yn gwahardd cynnwys gwybodaeth benodol yn y gofrestr, ar sail diogelwch gwladol neu gyfrinachedd masnachol. Gweler paragraff 7 o Atodlen 9 i'r Ddeddf am ddarpariaethau trosiannol sy'n ymwneud â'r gofrestr a gynhelir o dan adran 14 o Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985.
Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn ag ym mha ffurf y dylid rhoi'r gofrestr ar gael at Uned Caniatadau Morol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y cyfeiriad isod.
Paratowyd asesiad llawn o effaith y system drwyddedu forol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac y mae ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.