Search Legislation

Rheoliadau'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Diwygio) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 528 (Cy.73)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed

21 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Chwefror 2011

Yn dod i rym

1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan—

(a)

adrannau 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 1 a 3(3) o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno, a

(b)

adran 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2) a pharagraffau 1, 2, 3, 17 a 20 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno,

ac a freinir bellach ynddynt hwy(3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau bilio(4) yng Nghymru.

(3Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)cais am orchymyn dyled a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2011, neu

(b)cais o fath a grybwyllwyd yn y tablau a ddisodlwyd gan yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn ac a wneir cyn 1 Ebrill 2011.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989

2.—(1Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(5) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 12 (cais am orchymyn dyled)—

(a)ym mharagraff (6)(b), ar ôl “the order”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”;

(b)ym mharagraff (7), ar ôl “the application”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”.

(3Yn lle Atodlen 4, rhodder yr atodlen sydd yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992

3.—(1Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(6) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 34 (cais am orchymyn dyled)—

(a)ym mharagraff (7)(b), ar ôl “the order”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”;

(b)ym mharagraff (8), ar ôl “the application”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”.

(3Yn lle Atodlen 6, rhodder yr atodlen sydd yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

21 Chwefror 2011

ATODLEN 1

Regulation 16(6A) and (6B)

SCHEDULE 4Costs connected with committal

ApplicationMaximum Costs
For making an application for a warrant of commitment£305.00
For making an application for a warrant of arrest£145.00.

ATODLEN 2

Regulation 47(6A) and (6B)

SCHEDULE 6Costs connected with committal

ApplicationMaximum Costs
For making an application for a warrant of commitment£305.00
For making an application for a warrant of arrest£145.00.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (O.S. 1989/1058) (“Rheoliadau 1989”) a Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613) (“Rheoliadau 1992”). Mewn perthynas â'r ddwy set o Reoliadau

  • rhagnodir uchafsymiau ar gyfer y costau y caiff awdurdod bilio'u hadennill mewn cysylltiad â cheisiadau am orchmynion dyled; a

  • cynyddir y costau mewn cysylltiad â thraddodi, y caiff awdurdod bilio'u hadennill mewn rhai amgylchiadau.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2011 ac y maent yn gymwys o ran awdurdodau bilio yng Nghymru (rheoliad 1).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 1989 (mewn perthynas ag ardrethu annomestig). Rhagnodir mai'r uchafswm y ceir ei ganiatáu i awdurdodau bilio am gostau mewn cysylltiad â chais am orchymyn dyled, gan gynnwys costau cychwyn y cais, yw £70. Disodlir Atodlen 4 i Reoliadau 1989 (costau mewn cysylltiad â thraddodi) gan yr atodlen yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1992 (mewn perthynas â'r dreth gyngor). Rhagnodir mai'r uchafswm y ceir ei ganiatáu i awdurdodau bilio am gostau mewn cysylltiad â chais am orchymyn dyled, gan gynnwys costau cychwyn y cais yw £70. Disodlir Atodlen 6 i Reoliadau 1992 (costau mewn cysylltiad â thraddodi) gan yr atodlen yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(1)

1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 yn rhagolygol gan baragraff 89 o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15). Diwygiwyd paragraff 3(3) gan baragraff 87(2)(b) o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14).

(2)

1992 p.14. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 4 yn rhagolygol gan baragraff 107(2) o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.

(3)

Mae'r pwerau hyn bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd hwy cyn hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnodion yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

(4)

Diffinnir y term “billing authority” yn adran 144(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac adran 69(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae'r diffiniad yn adran 144(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn gweithredu drwy gyfeirio at Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

(5)

O.S. 1989/1058. Yr offerynnau perthnasol sy'n diwygio yw O.S. 1998/3089, 1990/145, 1992/474, 1993/616, 1998/3089, 2003/1714 (Cy.182).

(6)

O.S. 1992/613. Yr offerynnau perthnasol sy'n diwygio yw O.S. 1992/3008, 1994/505, 1998/295, 2003/1715 (Cy.183).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources