2011 Rhif 476 (Cy.71) (C.18)
GWASTRAFF, CYMRU

Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

Wedi'i wneud
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 21(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 20101, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.

(2)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.

Y diwrnod penodedig2.

Daw adran 3 o'r Mesur i rym ar 4 Mawrth 2011.

Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 3 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (“y Mesur”) i rym a hynny ar 4 Mawrth 2011.

Daeth gweddill darpariaethau'r Mesur i rym ar 15 Chwefror 2011 yn rhinwedd adran 21(2) o'r Mesur.