2011 Rhif 465 (Cy.70)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy2.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.