Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
Terfyn gwerth blynyddol2.
£34,800 yw'r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Dirymu3.
Mae'r darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn galluogi personau sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir, a bennir yn Atodlen 13 i'r Ddeddf (gan gynnwys tir y mae cynigion cynllunio a chynigion priffyrdd penodol yn effeithio arno), i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir.
Un o'r buddiannau mewn tir sy'n gymwys i'w ddiogelu yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament (sef hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) pan na fydd gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (adran 149(3)(a) o'r Ddeddf).
Mae'r pŵer i ragnodi'r swm hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy o ran Cymru, wedi ei freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Drwy arfer y pŵer hwnnw, mae Gweinidogion Cymru, drwy'r Gorchymyn hwn yn codi'r terfyn gwerth blynyddol o £29,200 i £34,800 er mwyn cymryd i ystyriaeth ailbrisio'r ardrethi yn y flwyddyn 2010.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/367) (Cy.33) wedi ei ddirymu.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ynglŷn ag effaith y Gorchymyn hwn wedi cael ei baratoi a'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau gan Lywodraeth y Cynulliad, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.