2011 Rhif 433 (Cy.62)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Powys) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 20041, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru2.

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.