(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3165 (Cy.276)) ymhellach drwy:

(a)

diweddaru'r cyfeiriad at Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2009 (O.S. 2009/2297) yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau 2007 (rheoliad 2(2)); a

(b)

darparu y caniateir defnyddio ieithoedd yn ychwanegol at y Saesneg ar y marc neu'r label (rheoliad 2(3)).