Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wneir o dan adran 21 o Ddeddf 1993, esemptio dosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os bodlonir hwy y gellir defnyddio'r cyfryw leoedd tân i losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2009 (S.I. 2009/3224) (Cy.278).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn esemptio'r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf o'r Atodlen i'r Gorchymyn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn o'r Atodlen honno.
Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.