2011 Rhif 3047 (Cy.322)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi1 a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a Chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 9 Ionawr 2012.

Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau GIG2

Cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru2 yw £7,489,000.

Lesley GriffithsY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu swm y cyfalaf cychwynnol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.