Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Mesur. Mae'n cychwyn Rhan 4 o'r Mesur sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”) mewn perthynas ag Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (“EIMAau”). Bydd Deddf 1983, fel y'i diwygiwyd gan Ran 4, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau bod cymorth yn cael ei ddarparu gan EIMAau i ddau grŵp o gleientiaid: cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn rhai o ddarpariaethau Rhan 1 o'r Mesur sy'n ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid iechyd meddwl lleol gymryd camau rhesymol i gytuno ar gynllun ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac sy'n cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru pan fydd methiant i gytuno ar gynllun o'r fath.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn adran 44 o'r Mesur sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i baratoi cod ymarfer fel canllaw ar gyfer (i) awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, cydgysylltwyr gofal ac unrhyw bersonau eraill o ran eu swyddogaethau o dan y Mesur, a (ii) unrhyw bersonau mewn cysylltiad â gweithredu darpariaethau'r Mesur.
Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau a fydd yn dod i rym ar 3 Ionawr 2012 ac at ba ddibenion. Mae erthygl 3 yn rhestru'r darpariaethau a fydd yn dod i rym ar 2 Ebrill 2012 ac at ba ddibenion.
Mae erthygl 4 yn rhestru'r darpariaethau, sy'n ffurfio rhan o Ran 1 o'r Mesur, a fydd yn dod i rym ar 8 Mai 2012.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod y rhai hynny sydd yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cael eu trin, o 3 Ionawr 2012 ymlaen, fel petaent yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130E o'r Ddeddf honno.
Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf, ond gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur am y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl i'r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.