2011 Rhif 3046 (Cy.321) (C.116)
Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 20101.
Enwi a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
a
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010;
b
mae i “claf cymwys” yr un ystyr a roddir i “qualifying patient” yn adran 130C o Ddeddf Iechyd Meddwl 19832;
c
mae i “cleifion anffurfiol cymwys Cymru” yr un ystyr a roddir i “Welsh qualifying informal patients” yn adran 130J o Ddeddf Iechyd Meddwl 19833.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 3 Ionawr 20122
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 3 Ionawr 2012—
a
Adran 31 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
b
Adran 32 (darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);
c
Adran 34 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
ch
Adran 35 (cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);
d
Adran 37 (dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);
dd
Adran 39 (cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
e
Adran 40 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
f
Adran 44 (codau ymarfer);
ff
Adran 53(1) (diwygiadau canlyniadol etc) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
g
Adran 54 (diddymiadau) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
ng
Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru; ac
h
Atodlen 2 (diddymiadau) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 2 Ebrill 20123
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 2 Ebrill 2012—
a
Adran 31 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
b
Adran 33 (darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion anffurfiol cymwys Cymru);
c
Adran 34 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
ch
Adran 36 (cleifion anffurfiol cymwys Cymru);
d
Adran 38 (dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion anffurfiol cymwys Cymru);
dd
Adran 39 (cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
e
Adran 40 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
f
Adran 53(1) (diwygiadau canlyniadol etc) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
ff
Adran 54 (diddymiadau) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
g
Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn; ac
ng
Atodlen 2 (diddymiadau) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 8 Mai 20124
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 8 Mai 2012—
a
Adran 1 (ystyr “partneriaid iechyd meddwl lleol”);
b
Adran 2 (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);
c
Adran 4 (methiannau i gytuno ar gynlluniau);
ch
Adran 5 (ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”);
d
Adran 11 (cynnwys cynlluniau o dan y Rhan hon mewn cynlluniau plant a phobl ifanc);
dd
Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 1, 2, 4, 5 ac 11 o'r Mesur; ac
e
Adran 45 (Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol).
Darpariaeth Drosiannol5
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo claf cymwys yng Nghymru yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
2
O 3 Ionawr 2012 ymlaen mae'r cymorth hwnnw i gael ei drin fel petai wedi cael ei roi o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)