Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011.
(2)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Ionawr 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Diwygio Rheoliadau 20042.
Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 2(1) (dehongli)3.
(a)
hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);
(b)
hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);
(c)
“ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol5;ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol6;”;
(ch)
hepgorer y diffiniadau o “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).
Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad”4.
Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
Amnewid y term “gwastraff trefol a gasglwyd”5.
Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd”—
(a)
rheoliad 6(1)(b) ac (c);
(b)
yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);
(c)
rheoliad 14(2)(ii).
Amnewid y term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”6.
Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”.
Amnewid rheoliad 8 (penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff)7.
“Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a gasglwyd sydd mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd8.
Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.
Dirymu Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 20118.
Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).
Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat. Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt.
Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff. Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt. Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)). Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.
Defnyddir y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu. Mae Deddf GAMA yn cael ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Gwneir y diwygiadau hyn gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2499) a fydd yn dod i rym ar yr un adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Dangosir y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef. Gwneir diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol a gwastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004. Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol.
Cafodd y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i Reoliadau 2004 eu gwneud yn wreiddiol gan Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2555 (Cy. 279)) a ddaeth i rym ar 21 Tachwedd 2011. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailwneud y Rheoliadau cynharach hynny er mwyn gwneud yn eglur y pwerau y gwneir y diwygiadau odanynt.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.