xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2946 (Cy.319)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011

Gwnaed

6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 5(4) ac 17 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010(1).

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.

Diwygiadau i Atodlen 2 i'r Mesur

2.  Mae Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Mesur wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(1Ym mharagraff 5 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—

AnifailCyfradd uchaf yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail
Gwartheg£ 6.91
Lloi£ 0.50
Defaid£ 1.00
Moch£ 1.67.

(2Ym mharagraff 6 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—

AnifailCyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail
Gwartheg£ 2.12
Lloi£ 0.50
Defaid£ 0.32
Moch£ 0.40.

Alun Davies

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.

Mae erthygl 2 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Mesur drwy amnewid y tablau ynghylch yr elfennau ym mharagraff 5 a 6.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol.