2011 Rhif 2946 (Cy.319)
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 5(4) ac 17 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 20101.
Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.
Diwygiadau i Atodlen 2 i'r Mesur2
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Mesur wedi ei diwygio fel a ganlyn—
1
Ym mharagraff 5 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—
Anifail
Cyfradd uchaf yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail
Gwartheg
£ 6.91
Lloi
£ 0.50
Defaid
£ 1.00
Moch
£ 1.67
2
Ym mharagraff 6 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—
Anifail
Cyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail
Gwartheg
£ 2.12
Lloi
£ 0.50
Defaid
£ 0.32
Moch
£ 0.40
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)