ATODLEN 1GOFYNION PROFFESIYNOL
1
Y gofynion proffesiynol yw bod rhaid i berson fod—
a
yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol;
b
yn nyrs lefel gyntaf neu'n nyrs ail lefel, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 neu Is-Ran 2 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 200112, gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai nyrsio iechyd meddwl neu nyrsio anableddau dysgu yw ei maes ymarfer;
c
yn therapydd galwedigaethol sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 200113;
ch
yn seicolegydd ymarferol sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 14 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;
d
yn ymarferydd meddygol cofrestredig;
dd
yn ddeietegydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 4 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;
e
yn ffisiotherapydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 9 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu
f
yn therapydd iaith a lleferydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 12 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001.
ATODLEN 2Cynllun Gofal a Thriniaeth
Gall y cynllun hwn cael ei gwblhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg, neu yn rhannol yn y Gymraeg ac yn rhannol yn y Saesneg
This plan may be completed in the Welsh or the English language, or partly in Welsh and partly in English
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Adran 18 — Cynllun Gofal a Thriniaeth
Mae'r cynllun gofal a thriniaeth hwn wedi'i baratoi o dan adran 18 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ac yn unol â'r gofynion yn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011.
Dyma gynllun gofal a thriniaeth [Enw'r claf perthnasol] sy'n byw yn [Cyfeiriad arferol llawn y claf perthnasol].
Y cydgysylltydd gofal sydd wedi paratoi'r cynllun gofal a thriniaeth hwn yw [Enw'r cydgysylltydd gofal] ac mae modd cysylltu â'r cydgysylltydd gofal yn [Rhif ffôn, cyfeiriad post ac, os yw'n briodol, cyfeiriad e-bost y cydgysylltydd gofal]. Mae'r cydgysylltydd gofal wedi cael ei benodi gan [Enw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Awdurdod Lleol a benododd y cydgysylltydd gofal] ac mae'n gweithredu ar eu rhan.
Cafodd y cynllun hwn ei wneud ar [Y dyddiad y cafodd y cynllun ei wneud] ac mae i'w adolygu erbyn [Y dyddiad y mae'n rhaid adolygu'r cynllun] fan bellaf. Er hynny, caiff [Enw'r claf perthnasol], neu'r gofalwr/gofalwyr neu'r gofalwr/gofalwyr lleoliad oedolyn sydd ganddo/ganddi ofyn i'r cynllun gofal hwn gael ei adolygu unrhyw bryd.
Mae'r rhan hon o'r cynllun gofal a thriniaeth yn cofnodi'r canlyniadau y mae'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl wedi'i bwriadu i'w sicrhau, manylion y gwasanaethau hynny sydd i gael eu darparu, a'r camau sydd i'w cymryd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hynny.
[Rhaid i'r canlyniad(au) arfaethedig a gynhwysir yn y rhan ganlynol o'r cynllun ymwneud ag un neu fwy o'r meysydd sydd wedi'u rhestru, a chynnwys esboniad ar sut mae pob canlyniad yn ymwneud â phob maes. Gall canlyniadau gael eu sicrhau mewn meysydd eraill hefyd, a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw risgiau sydd wedi'u nodi ar gyfer y claf perthnasol.
Mae'r rhan hon o'r cynllun hefyd yn nodi manylion y gwasanaethau sydd i'w darparu, neu'r camau sydd i'w cymryd, i sicrhau'r canlyniadau arfaethedig, gan gynnwys pa bryd a chan bwy y mae'r gwasanaethau hynny i'w darparu neu y mae'r camau hynny i'w cymryd.
[Rhaid cytuno ar ganlyniadau i'w sicrhau ar gyfer o leiaf un o'r meysydd a ganlyn:
a
llety
b
addysg a hyfforddiant
c
cyllid ac arian
ch
triniaeth feddygol a mathau eraill o driniaeth, gan gynnwys ymyriadau seicolegol
d
perthnasau rhianta neu ofalu
dd
gofal personol a llesiant corfforol
e
cymdeithasol, diwylliannol neu ysbrydol
f
gwaith a galwedigaeth.
Gall canlyniadau i'w sicrhau gael eu cytuno hefyd ar gyfer meysydd eraill]
Y canlyniad sydd i'w sicrhau
Pa wasanaethau sydd i'w darparu, neu pa gamau sydd i'w cymryd
Pa bryd
Gan bwy
Gall y meddyliau, y teimladau neu'r ymddygiadau a ganlyn ddangos bod [Enw'r claf perthnasol] yn mynd yn fwy sâl a bod angen cymorth ychwanegol oddi wrth y tîm gofal (mae'r rhain weithiau'n cael eu galw'n arwyddion o bwl pellach):
Os bydd [Enw'r claf perthnasol] yn teimlo bod ei iechyd meddwl neu ei hiechyd meddwl yn gwaethygu nes cyrraedd pwynt lle mae angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, dylai'r camau a ganlyn gael eu cymryd (mae hyn weithiau'n cael ei alw'n gynllun argyfwng a rhaid iddo gynnwys manylion y gwasanaethau i gysylltu â nhw):
Dylai unrhyw ofynion neu ddymuniadau sydd gan [Enw'r claf perthnasol] o ran iaith neu gyfathrebu (gan gynnwys defnyddio'r Gymraeg) gael eu cofnodi yma:
Dyma farn [Enw'r claf perthnasol] am y cynllun gofal a thriniaeth hwn, y gwasanaethau iechyd meddwl sydd i'w darparu, ac unrhyw drefniadau at y dyfodol a ddylai gael eu hystyried:
[Cofnodwch unrhyw farn y mae'r claf perthnasol yn dymuno'i chynnwys (gan gynnwys dymuniadau a theimladau yn y gorffennol a'r presennol ynghylch y materion sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun), gan gynnwys unrhyw osodiadau am unrhyw drefniadau at y dyfodol a allai fod yn gymwys. Os nad oes gan y claf farn neu osodiadau ar y materion hyn, neu os nad oes modd sicrhau barn y claf, dylai hynny gael ei gofnodi hefyd.]
Mae'r cynllun gofal a thriniaeth hwn
* wedi'i gytuno gyda [Enw'r claf perthnasol] ac mae wedi'i gofnodi yn unol ag adran 18(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
* heb gael ei gytuno gyda [Enw'r claf perthnasol] ond mae'r canlyniadau wedi'u penderfynu gan y darparydd/darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl, ac maent wedi'u cofnodi yn unol ag adran 18(6) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
[* dileer fel y bo'n gymwys (rhaid defnyddio un, ond nid mwy nag un, o'r gosodiadau)]
Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r darparydd/darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl a ganlyn sicrhau bod y gwasanaethau iechyd meddwl a nodwyd yn y cynllun gofal a thriniaeth hwn yn cael eu darparu: [Rowch enw'r Bwrdd Iechyd Lleol a/neu'r Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r claf perthnasol]
Llofnod [Mae'r claf perthnasol yn cael llofnodi'r cynllun gofal a thriniaeth, os yw'n dymuno] Y claf perthnasol
Llofnod [Rhaid i'r cydgysylltydd gofal lofnodi'r cynllun gofal a thriniaeth hwn] Y cydgysylltydd gofal
Dyddiad [Rhowch y dyddiad y mae'r cynllun gofal a thriniaeth yn cael ei wneud]