- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 4(1)(a)
1. Y gofynion proffesiynol yw bod rhaid i berson fod—
(a)yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol;
(b)yn nyrs lefel gyntaf neu'n nyrs ail lefel, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 neu Is-Ran 2 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(1), gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai nyrsio iechyd meddwl neu nyrsio anableddau dysgu yw ei maes ymarfer;
(c)yn therapydd galwedigaethol sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(2);
(ch)yn seicolegydd ymarferol sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 14 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;
(d)yn ymarferydd meddygol cofrestredig;
(dd)yn ddeietegydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 4 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;
(e)yn ffisiotherapydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 9 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu
(f)yn therapydd iaith a lleferydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 12 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001.
Rheoliad 5(1)
Gall y cynllun hwn cael ei gwblhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg, neu yn rhannol yn y Gymraeg ac yn rhannol yn y Saesneg
This plan may be completed in the Welsh or the English language, or partly in Welsh and partly in English
Mae'r cynllun gofal a thriniaeth hwn wedi'i baratoi o dan adran 18 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ac yn unol â'r gofynion yn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011.
Dyma gynllun gofal a thriniaeth [Enw'r claf perthnasol] sy'n byw yn [Cyfeiriad arferol llawn y claf perthnasol].
Y cydgysylltydd gofal sydd wedi paratoi'r cynllun gofal a thriniaeth hwn yw [Enw'r cydgysylltydd gofal] ac mae modd cysylltu â'r cydgysylltydd gofal yn [Rhif ffôn, cyfeiriad post ac, os yw'n briodol, cyfeiriad e-bost y cydgysylltydd gofal]. Mae'r cydgysylltydd gofal wedi cael ei benodi gan [Enw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Awdurdod Lleol a benododd y cydgysylltydd gofal] ac mae'n gweithredu ar eu rhan.
Cafodd y cynllun hwn ei wneud ar [Y dyddiad y cafodd y cynllun ei wneud] ac mae i'w adolygu erbyn [Y dyddiad y mae'n rhaid adolygu'r cynllun] fan bellaf. Er hynny, caiff [Enw'r claf perthnasol], neu'r gofalwr/gofalwyr neu'r gofalwr/gofalwyr lleoliad oedolyn sydd ganddo/ganddi ofyn i'r cynllun gofal hwn gael ei adolygu unrhyw bryd.
Mae'r rhan hon o'r cynllun gofal a thriniaeth yn cofnodi'r canlyniadau y mae'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl wedi'i bwriadu i'w sicrhau, manylion y gwasanaethau hynny sydd i gael eu darparu, a'r camau sydd i'w cymryd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hynny.
[Rhaid i'r canlyniad(au) arfaethedig a gynhwysir yn y rhan ganlynol o'r cynllun ymwneud ag un neu fwy o'r meysydd sydd wedi'u rhestru, a chynnwys esboniad ar sut mae pob canlyniad yn ymwneud â phob maes. Gall canlyniadau gael eu sicrhau mewn meysydd eraill hefyd, a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw risgiau sydd wedi'u nodi ar gyfer y claf perthnasol.
Mae'r rhan hon o'r cynllun hefyd yn nodi manylion y gwasanaethau sydd i'w darparu, neu'r camau sydd i'w cymryd, i sicrhau'r canlyniadau arfaethedig, gan gynnwys pa bryd a chan bwy y mae'r gwasanaethau hynny i'w darparu neu y mae'r camau hynny i'w cymryd.
[Rhaid cytuno ar ganlyniadau i'w sicrhau ar gyfer o leiaf un o'r meysydd a ganlyn:
a)llety
b)addysg a hyfforddiant
c)cyllid ac arian
ch)triniaeth feddygol a mathau eraill o driniaeth, gan gynnwys ymyriadau seicolegol
d)perthnasau rhianta neu ofalu
dd)gofal personol a llesiant corfforol
e)cymdeithasol, diwylliannol neu ysbrydol
f)gwaith a galwedigaeth.
Gall canlyniadau i'w sicrhau gael eu cytuno hefyd ar gyfer meysydd eraill]
Y canlyniad sydd i'w sicrhau
Pa wasanaethau sydd i'w darparu, neu pa gamau sydd i'w cymryd
Pa bryd
Gan bwy
Gall y meddyliau, y teimladau neu'r ymddygiadau a ganlyn ddangos bod [Enw'r claf perthnasol] yn mynd yn fwy sâl a bod angen cymorth ychwanegol oddi wrth y tîm gofal (mae'r rhain weithiau'n cael eu galw'n arwyddion o bwl pellach):
Os bydd [Enw'r claf perthnasol] yn teimlo bod ei iechyd meddwl neu ei hiechyd meddwl yn gwaethygu nes cyrraedd pwynt lle mae angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, dylai'r camau a ganlyn gael eu cymryd (mae hyn weithiau'n cael ei alw'n gynllun argyfwng a rhaid iddo gynnwys manylion y gwasanaethau i gysylltu â nhw):
Dylai unrhyw ofynion neu ddymuniadau sydd gan [Enw'r claf perthnasol] o ran iaith neu gyfathrebu (gan gynnwys defnyddio'r Gymraeg) gael eu cofnodi yma:
Dyma farn [Enw'r claf perthnasol] am y cynllun gofal a thriniaeth hwn, y gwasanaethau iechyd meddwl sydd i'w darparu, ac unrhyw drefniadau at y dyfodol a ddylai gael eu hystyried:
[Cofnodwch unrhyw farn y mae'r claf perthnasol yn dymuno'i chynnwys (gan gynnwys dymuniadau a theimladau yn y gorffennol a'r presennol ynghylch y materion sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun), gan gynnwys unrhyw osodiadau am unrhyw drefniadau at y dyfodol a allai fod yn gymwys. Os nad oes gan y claf farn neu osodiadau ar y materion hyn, neu os nad oes modd sicrhau barn y claf, dylai hynny gael ei gofnodi hefyd.]
Mae'r cynllun gofal a thriniaeth hwn
* wedi'i gytuno gyda [Enw'r claf perthnasol] ac mae wedi'i gofnodi yn unol ag adran 18(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
* heb gael ei gytuno gyda [Enw'r claf perthnasol] ond mae'r canlyniadau wedi'u penderfynu gan y darparydd/darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl, ac maent wedi'u cofnodi yn unol ag adran 18(6) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
[* dileer fel y bo'n gymwys (rhaid defnyddio un, ond nid mwy nag un, o'r gosodiadau)]
Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r darparydd/darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl a ganlyn sicrhau bod y gwasanaethau iechyd meddwl a nodwyd yn y cynllun gofal a thriniaeth hwn yn cael eu darparu: [Rowch enw'r Bwrdd Iechyd Lleol a/neu'r Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r claf perthnasol]
Llofnod [Mae'r claf perthnasol yn cael llofnodi'r cynllun gofal a thriniaeth, os yw'n dymuno] Y claf perthnasol
Llofnod [Rhaid i'r cydgysylltydd gofal lofnodi'r cynllun gofal a thriniaeth hwn] Y cydgysylltydd gofal
Dyddiad [Rhowch y dyddiad y mae'r cynllun gofal a thriniaeth yn cael ei wneud]
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: