ATODLEN 1GOFYNION PROFFESIYNOL

1

Y gofynion proffesiynol yw bod rhaid i berson fod—

a

yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol;

b

yn nyrs lefel gyntaf neu'n nyrs ail lefel, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 neu Is-Ran 2 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 200112, gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai nyrsio iechyd meddwl neu nyrsio anableddau dysgu yw ei maes ymarfer;

c

yn therapydd galwedigaethol sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 200113;

ch

yn seicolegydd ymarferol sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 14 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;

d

yn ymarferydd meddygol cofrestredig;

dd

yn ddeietegydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 4 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;

e

yn ffisiotherapydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 9 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu

f

yn therapydd iaith a lleferydd sydd wedi'i gofrestru yn Rhan 12 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001.