Rhan 4 —Paratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a'u diwygio

Copïau o gynlluniau gofal a thriniaeth8

1

Pan fo cydgysylltydd gofal claf perthnasol—

a

wedi cytuno ar gynllun gofal a thriniaeth i glaf perthnasol ac wedi cofnodi'r cynllun mewn ysgrifen fel y darperir gan adran 18(1) a (2) o'r Mesur;

b

wedi cofnodi'r cynllun neu'r cynlluniau a benderfynwyd o dan ddarpariaethau adran 18(4) neu (5) o'r Mesur mewn ysgrifen fel y darperir gan adran 18(6) o'r Mesur; neu

c

wedi adolygu neu wedi diwygio cynllun gofal a thriniaeth i glaf perthnasol fel y darperir gan reoliad 7 neu 11 o'r Rheoliadau,

yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r personau a ganlyn wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd pob cam ymarferol i sicrhau y darperir copi ysgrifenedig iddynt o gynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw—

a

y claf hwnnw, oni bai—

i

bod y claf hwnnw wedi gwrthod derbyn copi o'r cynllun; neu

ii

bod darparu copi o'r cynllun yn debyg o beri niwed difrifol i iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol y claf hwnnw;

b

yr holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y claf hwnnw, oni bai bod person sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw wedi gwrthod derbyn copi o'r cynllun;

c

holl ofalwyr a holl ofalwyr lleoliad oedolyn y claf hwnnw, oni bai bod gofalwr neu ofalwr lleoliad oedolyn wedi gwrthod derbyn copi o'r cynllun;

ch

ymarferydd meddygol cofrestredig y claf hwnnw;

d

y darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl a'r sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw;

dd

clinigydd cyfrifol y claf hwnnw;

e

pan fo gwarcheidwad wedi'i benodi i'r claf hwnnw o ganlyniad i gais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983 neu orchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983

i

gwarcheidwad y claf hwnnw, a

ii

Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol cyfrifol y claf hwnnw;

f

rhoddai atwrneiaeth arhosol y claf hwnnw a benodwyd yn unol ag adran 10 o Ddeddf 2005, neu ddirprwy i'r claf hwnnw a benodwyd gan y Llys Gwarchod yn unol ag adran 16 o Ddeddf 2005, ar yr amod—

i

yn achos rhoddai, fod y materion y mae'r cynllun yn ymwneud â hwy gan gynnwys canlyniadau (ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau) y cytunwyd arnynt yn unol ag adran 18(1)(a) o'r Mesur, yn dod o fewn cwmpas yr atwrneiaeth arhosol, neu

ii

yn achos dirprwy, fod y materion y mae'r cynllun yn ymwneud â hwy gan gynnwys canlyniadau (ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau) y cytunwyd arnynt yn unol ag adran 18(1)(a) o'r Mesur, yn dod o fewn cwmpas y gorchymyn, y cyfarwyddiadau neu'r telerau ynglŷn â phenodi'r dirprwy a bennwyd gan y Llys Gwarchod;

ff

os oes gweithredoedd neu benderfyniadau wedi'u cynnig mewn perthynas â'r claf hwnnw o dan adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o Ddeddf 2005, Eiriolydd Galluedd Meddwl Annibynnol a benodwyd i gynrychioli'r claf hwnnw yn unol ag adran 35 o'r Ddeddf honno;

g

os yw'r claf hwnnw'n destun awdurdodiad safonol a roddwyd o dan Ran 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli, y corff gorchwylio a chynrychiolydd y person perthnasol a benodwyd i'r claf hwnnw o dan baragraff 139 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005; ac

ng

os yw'r claf hwnnw yn destun awdurdodiad brys a roddwyd o dan Ran 5 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli a'r corff goruchwylio.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r personau a ganlyn wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, caniateir darparu copi ysgrifenedig o gynllun gofal a thriniaeth y claf perthnasol hwnnw iddynt—

a

unrhyw berson y mae'r cydgysylltydd gofal yn dymuno iddo gael copi o'r cynllun, er mwyn hwyluso cyflawni'r canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl eu sicrhau i'r claf hwnnw; a

b

unrhyw berson y mae'r claf hwnnw'n dymuno i gopi o'r cynllun gael ei ddarparu iddo.

4

Cyn darparu copïau o gynllun gofal a thriniaeth claf perthnasol i unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd i ystyriaeth farn y claf hwnnw ynghylch a ddylid darparu copïau o'r fath i'r personau hynny.

5

Ond mae'r cydgysylltydd gofal yn cael darparu copïau o gynllun y claf perthnasol i unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) yn erbyn dymuniadau'r claf hwnnw ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i farn y claf hwnnw.

6

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

os oes copi o gynllun i'w ddarparu i berson, caiff y cydgysylltydd gofal gadw'r copi hwnnw yn ôl neu ddarparu copi o ran o'r cynllun hwnnw os yw'r cydgysylltydd gofal o'r farn ei bod er lles claf perthnasol gwneud hynny;

b

os yw person yn gymwys i gael mwy nag un copi o gynllun sy'n ymwneud â chlaf perthnasol, un copi yn unig o'r cynllun y mae angen ei ddarparu;

c

mae person yn gymwys i gael copi o gynllun os yw'n gymwys o dan un neu fwy o'r categorïau ym mharagraff (2) ar yr adeg y mae copïau o'r cynllun i'w darparu o dan baragraff (1);

ch

ni chaiff person y mae cynllun i'w ddarparu iddo wrthod derbyn cynllun oni bai bod darpariaeth ym mharagraff (2) yn caniatáu yn bendant iddo wneud hynny.