Rhan 4 —Paratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a'u diwygio
Adolygu a diwygio cynlluniau gofal a thriniaeth7
1
Caniateir i gynllun gofal a thriniaeth gael ei adolygu neu ei ddiwygio gan y cydgysylltydd gofal ar unrhyw adeg ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal yn cytuno â'r adolygiad hwnnw neu'r diwygiad hwnnw.
2
Yn ddarostyngedig i reoliad 11, rhaid i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth ac, os oes angen hynny, ei ddiwygio—
a
pan fo cyfnod o ddim mwy na 12 mis calendr wedi mynd heibio ers i'r cynllun hwnnw gael ei baratoi gyntaf neu ei adolygu ddiwethaf;
b
pan fo claf perthnasol yn gofyn i'w gynllun gael ei adolygu cyn i'r cyfnod o 12 mis calendr fynd heibio;
c
pan fo gofalwr neu ofalwr lleoliad oedolyn claf perthnasol yn gofyn i gynllun y claf hwnnw gael ei adolygu cyn i'r cyfnod o 12 mis calendr fynd heibio; neu
ch
pan fo darparydd gwasanaeth iechyd meddwl at ddibenion Rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur11 yn gofyn i gynllun claf perthnasol gael ei adolygu.
3
Ond nid oes angen i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth ar gais claf perthnasol, gofalwr y claf hwnnw neu ofalwr lleoliad oedolyn y claf hwnnw o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
a
os yw'r cais yn ei farn ef yn wacsaw neu'n flinderus; neu
b
os nad oes newid amgylchiadau wedi bod yn ei farn ef sy'n teilyngu cynnal adolygiad arall cyn i'r cyfnod o 12 mis ym mharagraff (2)(a) fynd heibio.
4
Ac eithrio'r gofyniad bod rhaid cael adolygiad ac, os oes angen hynny, diwygiad ar gynllun gofal a thriniaeth fel y darperir ym mharagraff (2)(a), nid oes angen i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth o dan unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn os oes angen mân ddiwygiadau i'r cynllun y mae'n briodol ym marn y cydgysylltydd gofal eu gwneud heb gynnal adolygiad.