- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Caniateir i gynllun gofal a thriniaeth gael ei adolygu neu ei ddiwygio gan y cydgysylltydd gofal ar unrhyw adeg ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal yn cytuno â'r adolygiad hwnnw neu'r diwygiad hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 11, rhaid i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth ac, os oes angen hynny, ei ddiwygio—
(a)pan fo cyfnod o ddim mwy na 12 mis calendr wedi mynd heibio ers i'r cynllun hwnnw gael ei baratoi gyntaf neu ei adolygu ddiwethaf;
(b)pan fo claf perthnasol yn gofyn i'w gynllun gael ei adolygu cyn i'r cyfnod o 12 mis calendr fynd heibio;
(c)pan fo gofalwr neu ofalwr lleoliad oedolyn claf perthnasol yn gofyn i gynllun y claf hwnnw gael ei adolygu cyn i'r cyfnod o 12 mis calendr fynd heibio; neu
(ch)pan fo darparydd gwasanaeth iechyd meddwl at ddibenion Rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur(1) yn gofyn i gynllun claf perthnasol gael ei adolygu.
(3) Ond nid oes angen i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth ar gais claf perthnasol, gofalwr y claf hwnnw neu ofalwr lleoliad oedolyn y claf hwnnw o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)os yw'r cais yn ei farn ef yn wacsaw neu'n flinderus; neu
(b)os nad oes newid amgylchiadau wedi bod yn ei farn ef sy'n teilyngu cynnal adolygiad arall cyn i'r cyfnod o 12 mis ym mharagraff (2)(a) fynd heibio.
(4) Ac eithrio'r gofyniad bod rhaid cael adolygiad ac, os oes angen hynny, diwygiad ar gynllun gofal a thriniaeth fel y darperir ym mharagraff (2)(a), nid oes angen i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth o dan unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn os oes angen mân ddiwygiadau i'r cynllun y mae'n briodol ym marn y cydgysylltydd gofal eu gwneud heb gynnal adolygiad.
Gweler adran 13 (ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”) o'r Mesur i gael y diffiniad o ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl at ddibenion Rhan 2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: