Rhan 4 —Paratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a'u diwygio

Personau i ymgynghori â hwy6

1

Os oes rhaid i gydgysylltydd gofal claf perthnasol weithio gyda chlaf perthnasol a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl y claf hwnnw er mwyn—

a

cytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw eu sicrhau fel y darperir gan adran 18(1)(a) o'r Mesur;

b

cytuno ar gynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw fel y darperir gan adran 18(1)(b) o'r Mesur; neu

c

adolygu a diwygio cynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw fel y darperir gan adran 18(1)(c) o'r Mesur,

yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd pob cam ymarferol i ymgynghori â'r personau a ganlyn pan fo'r personau hynny wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol—

a

yr holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y claf hwnnw;

b

holl ofalwyr a holl ofalwyr lleoliad oedolyn y claf hwnnw;

c

clinigydd cyfrifol y claf hwnnw;

ch

pan fo gwarcheidwad wedi'i benodi i'r claf hwnnw o ganlyniad i gais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983 neu orchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983, gwarcheidwad y claf hwnnw;

d

rhoddai atwrneiaeth arhosol y claf hwnnw a benodwyd yn unol ag adran 10 (penodi rhoddeion) o Ddeddf 2005, neu ddirprwy i'r claf hwnnw a benodwyd gan y Llys Gwarchod yn unol ag adran 16 (pwerau i wneud penderfyniadau ac i benodi dirprwyon: cyffredinol) o Ddeddf 2005, ar yr amod—

i

yn achos rhoddai, fod y materion sydd i'w hystyried wrth ymgynghori yn dod o fewn cwmpas yr atwrneiaeth arhosol, neu

ii

yn achos dirprwy, fod y materion sydd i'w hystyried wrth ymgynghori yn dod o fewn cwmpas y gorchymyn, y cyfarwyddiadau neu'r telerau ynglŷn â phenodi'r dirprwy a bennwyd gan y Llys Gwarchod;

dd

pan gynigir gweithredoedd neu benderfyniadau mewn perthynas â'r claf hwnnw o dan adrannau 37 (darparu triniaeth feddygol ddifrifol gan un o gyrff y GIG), 38 (darparu llety gan un o gyrff y GIG), 39 (darparu llety gan awdurdod lleol), 39A (person yn dod yn destun Atodlen A1), 39C (person heb gynrychiolydd tra bo'n destun Atodlen A1) neu 39D (person sy'n destun Atodlen A1 heb gynrychiolaeth a delir) o Ddeddf 2005, Eiriolydd Galluedd Meddwl Annibynnol a benodwyd i gynrychioli'r claf hwnnw yn unol ag adran 35 (penodi eiriolwyr galluedd meddwl annibynnol) o'r Ddeddf honno;

e

pan fo'r claf hwnnw yn destun awdurdodiad safonol a roddwyd o dan Ran 4 (awdurdodiadau safonol) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli, y corff goruchwylio a chynrychiolydd y person perthnasol a benodwyd i'r claf hwnnw o dan baragraff 139 (corff goruchwylio i benodi cynrychiolydd) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005; ac

f

pan fo'r claf hwnnw yn destun awdurdodiad brys a roddwyd o dan Ran 5 (awdurdodiadau brys) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli a'r corff goruchwylio.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r personau a ganlyn wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, caniateir i'r cydgysylltydd gofal ymgynghori â hwy—

a

unrhyw berson y mae'r cydgysylltydd gofal yn dymuno ymgynghori ag ef, er mwyn hwyluso cyflawni swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal; a

b

unrhyw berson y mae'r claf hwnnw'n dymuno gweld ymgynghori ag ef mewn cysylltiad â sut mae'r cydgysylltydd gofal yn cyflawni ei swyddogaethau.

4

Cyn ymgynghori ag unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd i ystyriaeth farn y claf perthnasol ynghylch a ddylid ymgynghori â'r personau hynny.

5

Ond mae'r cydgysylltydd gofal yn cael ymgynghori ag unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) yn erbyn dymuniadau claf perthnasol ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i farn y claf hwnnw.

6

Pan fo'n rhaid ymgynghori â'r un person yn rhinwedd mwy nag un swyddogaeth o dan baragraffau (2) a (3), un ymgynghoriad yn unig y mae angen ei gynnal.

7

Os nad unigolyn yw'r person yr ymgynghorir ag ef, caniateir ymgynghori ag unigolyn sy'n gweithredu ar ran y person neu sydd wedi'i gyflogi ganddo.