Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Personau i ymgynghori â hwy

6.—(1Os oes rhaid i gydgysylltydd gofal claf perthnasol weithio gyda chlaf perthnasol a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl y claf hwnnw er mwyn—

(a)cytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw eu sicrhau fel y darperir gan adran 18(1)(a) o'r Mesur;

(b)cytuno ar gynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw fel y darperir gan adran 18(1)(b) o'r Mesur; neu

(c)adolygu a diwygio cynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw fel y darperir gan adran 18(1)(c) o'r Mesur,

yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd pob cam ymarferol i ymgynghori â'r personau a ganlyn pan fo'r personau hynny wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol—

(a)yr holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y claf hwnnw;

(b)holl ofalwyr a holl ofalwyr lleoliad oedolyn y claf hwnnw;

(c)clinigydd cyfrifol y claf hwnnw;

(ch)pan fo gwarcheidwad wedi'i benodi i'r claf hwnnw o ganlyniad i gais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983 neu orchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983, gwarcheidwad y claf hwnnw;

(d)rhoddai atwrneiaeth arhosol y claf hwnnw a benodwyd yn unol ag adran 10 (penodi rhoddeion) o Ddeddf 2005, neu ddirprwy i'r claf hwnnw a benodwyd gan y Llys Gwarchod yn unol ag adran 16 (pwerau i wneud penderfyniadau ac i benodi dirprwyon: cyffredinol) o Ddeddf 2005, ar yr amod—

(i)yn achos rhoddai, fod y materion sydd i'w hystyried wrth ymgynghori yn dod o fewn cwmpas yr atwrneiaeth arhosol, neu

(ii)yn achos dirprwy, fod y materion sydd i'w hystyried wrth ymgynghori yn dod o fewn cwmpas y gorchymyn, y cyfarwyddiadau neu'r telerau ynglŷn â phenodi'r dirprwy a bennwyd gan y Llys Gwarchod;

(dd)pan gynigir gweithredoedd neu benderfyniadau mewn perthynas â'r claf hwnnw o dan adrannau 37 (darparu triniaeth feddygol ddifrifol gan un o gyrff y GIG), 38 (darparu llety gan un o gyrff y GIG), 39 (darparu llety gan awdurdod lleol), 39A (person yn dod yn destun Atodlen A1), 39C (person heb gynrychiolydd tra bo'n destun Atodlen A1) neu 39D (person sy'n destun Atodlen A1 heb gynrychiolaeth a delir) o Ddeddf 2005, Eiriolydd Galluedd Meddwl Annibynnol a benodwyd i gynrychioli'r claf hwnnw yn unol ag adran 35 (penodi eiriolwyr galluedd meddwl annibynnol) o'r Ddeddf honno;

(e)pan fo'r claf hwnnw yn destun awdurdodiad safonol a roddwyd o dan Ran 4 (awdurdodiadau safonol) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli, y corff goruchwylio a chynrychiolydd y person perthnasol a benodwyd i'r claf hwnnw o dan baragraff 139 (corff goruchwylio i benodi cynrychiolydd) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005; ac

(f)pan fo'r claf hwnnw yn destun awdurdodiad brys a roddwyd o dan Ran 5 (awdurdodiadau brys) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli a'r corff goruchwylio.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r personau a ganlyn wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, caniateir i'r cydgysylltydd gofal ymgynghori â hwy—

(a)unrhyw berson y mae'r cydgysylltydd gofal yn dymuno ymgynghori ag ef, er mwyn hwyluso cyflawni swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal; a

(b)unrhyw berson y mae'r claf hwnnw'n dymuno gweld ymgynghori ag ef mewn cysylltiad â sut mae'r cydgysylltydd gofal yn cyflawni ei swyddogaethau.

(4Cyn ymgynghori ag unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd i ystyriaeth farn y claf perthnasol ynghylch a ddylid ymgynghori â'r personau hynny.

(5Ond mae'r cydgysylltydd gofal yn cael ymgynghori ag unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) yn erbyn dymuniadau claf perthnasol ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i farn y claf hwnnw.

(6Pan fo'n rhaid ymgynghori â'r un person yn rhinwedd mwy nag un swyddogaeth o dan baragraffau (2) a (3), un ymgynghoriad yn unig y mae angen ei gynnal.

(7Os nad unigolyn yw'r person yr ymgynghorir ag ef, caniateir ymgynghori ag unigolyn sy'n gweithredu ar ran y person neu sydd wedi'i gyflogi ganddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources