Rhan 3 —Cynlluniau gofal a thriniaeth

Ffurf a chynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth5

1

Rhaid i gydgysylltydd gofal sicrhau bod cynllun gofal a thriniaeth sy'n cofnodi'r holl ganlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl eu sicrhau i glaf perthnasol yn cael ei gwblhau mewn ysgrifen ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.

2

Rhaid i'r canlyniadau gynnwys cyflawniadau mewn o leiaf un o'r meysydd a ddarperir yn adran 18(1)(a) (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) o'r Mesur (ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r rhain).